Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsam.
Cais Dinas Diwylliant y Du 2029 Wrecsam
Mae Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsam yn elusen annibynnol newydd sydd wedi’i lleoli yn Wrecsam a sefydlwyd gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, i arwain ar gyflwyno cais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029.
Fel ymddiriedolaeth datblygu diwylliannol, sefydlwyd YCDW i gefnogi a datblygu seilwaith diwylliannol a chreadigol Wrecsam yn y tymor hir, gan annog buddsoddiad mewn creadigrwydd a diwylliant a fydd o fudd i bobl Wrecsam ac adeiladu proffil Wrecsam ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae arweinwyr diwylliannol a chymunedol o ardal Wrecsam a ledled Cymru yn eistedd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr YCDW i arwain gweledigaeth yr elusen i feithrin potensial creadigol Wrecsam a chyflawni ei chenhadaeth i bweru ecosystem ddiwylliannol Wrecsam drwy gydlynu, cysylltu, hyrwyddo a buddsoddi yn bobl unigryw, amrywiol Wrecsam.
Joanna Swash OBE
Cadeirydd
Arweinydd busnes, rhiant-lywodraethwr ac aelod diweddar o Gyngor Busnes y Prif Weinidog, Joanna Swash yw Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Moneypenny, sydd wedi tyfu ac ehangu’n fyd-eang, yn seiliedig ar ddiwylliant arobryn unigryw, gan osod pobl a thechnoleg wrth wraidd popeth. Mae Moneypenny yn ateb galwadau allanol, sgyrsiau byw a chyfathrebiadau pwrpasol ar gyfer busnesau o bob lliw a llun.
Richard Nicholls
Is-Gadeirydd
Richard yw Prif Weithredwr cyntaf Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru. Mae Heneb yn asiantaeth genedlaethol ar gyfer gwasanaethau rheoli prosiectau archaeoleg a threftadaeth yng Nghymru. Ef yw cyn Gyfarwyddwr Gweithrediadau Cyngor Celfyddydau Cymru ar ôl arwain timau Gwasanaethau Buddsoddi a Chyllido sy’n dosbarthu £40m yn flynyddol i brosiectau celfyddydol ledled y wlad. Mae rolau blaenorol wedi cynnwys Cyfarwyddwr Datblygu Amgueddfa Cymru a Dirprwy Bennaeth Datblygu Prifysgol Lerpwl. Cafodd Richard ei eni a’i fagu yn ardal Wrecsam.
Professor Uzo Iwobi
Yr Athro Uzo Iwobi CBE yw Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Cyngor Hil Cymru, cyn Ymgynghorydd Polisi Arbenigol i Lywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb a chyn Gomisiynydd y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Uzo yw sylfaenydd Fforwm Polisi Mae Bywydau Duon o Bwys, ymgyrch ZeroRacismWales, sylfaenydd Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol Pobl Dduon Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru ac un o sylfaenwyr Hanes Pobl Dduon Cymru. Mae hi’n arwain rhaglenni Hanes Pobl Dduon Cymru ac wedi gweithio gyda Tŷ Pawb i sefydlu’r Hwb Amlddiwylliannol yn Wrecsam – y cyntaf o’i fath.
Dawn Roberts-McCabe
Fel Prif Swyddog AVOW, Cyngor Gwirfoddol Sirol Wrecsam, mae Dawn yn hyrwyddwr mentrau a arweinir gan y gymuned ledled Wrecsam. Yn wreiddiol o Galiffornia, mae’n dod â gwybodaeth a phrofiad arweinyddiaeth helaeth o’i rôl bresennol, yn ogystal â gyrfa fel diplomat ar gyfer gwasanaeth tramor yr Unol Daleithiau. Mae gan Dawn galon fawr ar gyfer Wrecsam, ei chartref dewisol, ac mae wedi ymrwymo i weld y ddinas yn mynd o nerth i nerth.
Mike Corcoran
Mae Mike yn weithiwr llawrydd ac yn gefnogwr brwd o’r celfyddydau yn Wrecsam. Yn arbenigwr cydgynhyrchu, cyfranogi ac ymgysylltu, mae ganddo swyddi fel Ymchwilydd Ymweld ym Mhrifysgol Wrecsam, fel ymgynghorydd gyda Chyd-gynhyrchu Lab Cymru, ac fel cynghorydd i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru. Y tu allan i’r gwaith, mae Mike yn ymddiriedolwr gwirfoddol NEW Sinfonia – sefydliad celfyddydol amlweddog sy’n cynnwys cerddorfa siambr broffesiynol, ensemble lleisiol cymunedol, a rhaglen addysg – sy’n gweithredu ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt.
Neal Thompson
Mae Neal yn siaradwr Cymraeg rhugl ac ymgynghorydd llawrydd sydd wedi gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth fyw am yr ugain mlynedd diwethaf. Mae’n gyfarwyddwr artistig Gŵyl Ymylol Llangollen ac yn gyd-sylfaenydd FOCUS Wales, gŵyl a chynhadledd ryngwladol flynyddol, a gynhelir yn Wrecsam, Cymru. Bellach yn ei ddeuddegfed flwyddyn, mae FOCUS Wales yn cynnal dros 250 o berfformwyr byw a 400+ o weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth o bob cwr o’r byd ac yn croesawu 20,000 o fynychwyr yr ŵyl i ganol y ddinas, bob blwyddyn. Mae Neal yn eiriolwr dros y celfyddydau ac mae hefyd yn un o sylfaenwyr Grŵp Cynghori Diwydiant Digwyddiadau Cymru a sefydlwyd yn 2020 i gynrychioli buddiannau cerddoriaeth fyw a digwyddiadau diwylliannol, yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.
Graham Williams
Mae Graham yn Gyfarwyddwr Chwaraeon Cymru, yr asiantaeth genedlaethol sy’n gyfrifol am chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Mae cyfrifoldebau gwaith cyfredol yn cynnwys datblygu strategaethau i gefnogi cymunedau i fod yn egnïol drwy chwaraeon. Mae hefyd yn gyfrifol am ystod eang o feysydd gwasanaeth gan gynnwys digidol a chyfathrebu, ymchwil, polisi, materion cyhoeddus a grantiau cymunedol. Mae Graham yn byw gyda’i deulu yn ardal Wrecsam.
Devinda De Silva
Devinda yw cyn-gyfarwyddwr Cydweithio yn Theatr Genedlaethol Cymru ac mae’n aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru lle mae’n cadeirio’r Pwyllgor Cydraddoldeb. Ar hyn o bryd mae’n Gyd-gadeirydd grŵp llywio cyffredinol Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth diwylliant newydd i Gymru. Mae Devinda wedi gweithio’n helaeth yn Wrecsam dros y deng mlynedd diwethaf, gan ddiweddu gyda A Proper Ordinary Miracle ym mis Tachwedd 2022, darn o theatre safle mawr wedi’i gyd-greu.
Gwennan Mair Jones
Mae Gwennan yn hwylusydd theatr gymunedol ac artist Cymraeg sy’n gwthio ffiniau theatr ac yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Cymunedol, Llesiant ac Addysg mae’n rhan o dîm arweinyddiaeth weithredol ar gyfer Theatr Clwyd. Daeth angerdd Gwennan dros gelfyddydau ac ymgysylltu cymunedol yn ifanc yn tyfu i fyny yn Llan Ffestiniog. Cymuned a hygyrchedd yw calon holl waith Gwennan, a sut y gallwn, drwy’r celfyddydau, roi cyfle i newid o fewn cymunedau.